Croeso!
Rydym yn rhan o peilot cyffroes Cymraeg o'r enw Siarter Iaith Gymraeg.
Amcan y Siarter:
- Amcan syml y Siarter Iaith yw darparu fframwaith clir, y gellir eu defnyddio i hyrwyddo a chynyddu defnydd y iaith Gymraeg gan y plant mewn cyd-destun a’r ysgol gyfan. Yn gryno, prif nod y Siarter yw i hyrwyddo ethos Cymreig cadarn mewn ysgolion ac i ddarparu ystod o weithgareddau sy'n gyrru'r plant i fwynhau dysgu Cymraeg.
- Mae'r Siarter Iaith yn gofyn am gyfranogiad gan bob aelod o gymuned yr ysgol, ac mae aelodau staff yr ysgol a'r cyngor, y disgyblion a'u rhieni, llywodraethwyr ysgol a'r gymuned ehangach i gyd yn eu hannog i gymryd perchnogaeth llawn ohono. Y Criw Cymraeg sy’n allweddol o ran arwain a gyrru’r Siarter Iaith ymlaen.
Gwobrau Efydd, Arian ac Aur
- Er mwyn sicrhau bod pob ymdrech yn cael eu gwobrwyo, mae'r Siarter yn seiliedig ar yr egwyddor bod pob ysgol yn dilyn targedau heriol ond cyraeddadwy mewn cysylltiad â hybu defnydd o'r iaith Gymraeg. Gall y targedau penodol a gynhwysir yn y Siarter Iaith fod yn rhan o Gynllun Datblygu Cymraeg yr ysgol.
- Rydym yn dilyn Rhaglen Gweithredu i gwblhau’r Siarter yn llwyddiannus. Mae'r Siarter Iaith yn seiliedig ar y camau sy'n cael eu hystyried yn arfer da, ac y dylem felly gallu eu gweithredu. Bydd cyflawni'r nodau cychwynnol hyn yn y flwyddyn gyntaf yn sicrhau gwobr efydd ar gyfer yr ysgol.
Y nod yw ennill y wobr aur dros gyfnod o dair blynedd.